Alec Young yw Swyddog Prosiect Yr Wyddfa Di-blastig ar gyfer yr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ymgyrch Yr Wyddfa Di-blastig yn brosiect unigryw gyda’r nod o ddileu plastigion untro, a phob math arall o wastraff o fynydd uchaf Cymru. Mae’r targed uchelgeisiol hwn hyd yma wedi cynnwys gweithio gyda’r Ysgol Newid Ymddygiad ym Mhrifysgol Bangor, ysgogi busnesau ac ysgolion lleol, a chreu ymgyrchoedd ymgysylltu creadigo i ysbrydoli defnyddwyr y mynydd i feddwl ddwywaith am plastig untro. Magwyd Alec yn ne Eryri, a symudodd yn ôl i’r ardal ar ôl gyrfa ym maes rheoli cyfrifon. Mae’n mwynhau syrffio, rhedeg llwybrau mynyddoedd ac archwilio’r llu o berlau cudd ei filltir sgwâr.