Dyddiad cau (gwaith papur) 14.00 29 Mehefin 2021
Dyddiad Cau (cwestriynnau) 14 Mehefin 2021
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd cynigion ar gyfer swydd Cymrodoriaeth Trawsnewid Cymdeithasol a Newid Ymddygiad, gan weithio o fewn Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig (ERA). Nod y swydd hon yw cefnogi datblygiad a dealltwriaeth o wyddoniaeth gymdeithasol a gwyddor ymddygiad wrth feddwl am systemau ar draws yr adran.
Bydd y swydd hon o fewn tîm tystiolaeth amlddisgyblaethol sy’n cefnogi rhaglen ehangach i gyfrannu at gyflawni penderfyniadau cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth o fewn polisïau amgylchedd ac amaethyddiaeth Cymru. Mae’r tîm yn gweithio drwy gydweithio ym maes ymchwil gyda phartneriaid polisi, busnes a rheoli tir i gyflawni’r canlyniadau polisi a ddymunir.
Gwahoddir ceisiadau am gynigion gan Ymchwilwyr Ôl-ddoethuriaeth i Uwch Ymchwilwyr ac mae’r swydd yn agored i ymgeiswyr greu eu cynnig eu hunain ar gyfer sut y gallai lleoliad weithredu. Gall Llywodraeth Cymru gefnogi hyn fel swydd ran-amser neu llawn amser.
Disgwylir i ganlyniadau gweithgareddau a gynhelir yn ystod y Gymrodoriaeth arwain at ddealltwriaeth newydd a gwell o synthesis ymchwil o wyddoniaeth gymdeithasol ac ymddygiad a’r defnydd o ganlyniadau ymchwil wrth lunio polisïau a chymwysiadau, a dulliau newydd ac arloesol ar gyfer prosesau penderfynu cyfranogol a chynhwysol.
Rhaid i bob ymgeisydd gael ei gyflogi gan sefydliad cynnal cymwys drwy gydol y Gymrodoriaeth i dderbyn cyllid. Mae sefydliadau cynnal cymwys yn cynnwys Sefydliadau Addysg Uwch y DU, Sefydliadau Ymchwil Annibynnol cymwys neu Sefydliadau Ymchwil y Sector Cyhoeddus (PSREs).
Am fwy o wybodaeth fanwl am y cyfle yma, cliciwch ar y ddolen isod: