Ystyrir Cymru yn arweinydd y byd o ran ei hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 oedd y cyntaf o’i math i greu cysylltiad deddfwriaethol cadarn ag Amcanion Datblygu Cynaliadwy’r CU ar gyfer 2030. Rhoddwyd deddfwriaeth bellach ar waith gyda Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i gynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig.
Er mwyn sicrhau Cymru iach, gydnerth sy’n gallu addasu a ffynnu yn wyneb newid hinsawdd, mae angen i wneuthurwyr polisi gael gwell mynediad at dystiolaeth ar draws amrediad eang o faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a llesiant. Daw Platfform Amgylcheddol Cymru â phrifysgolion, canolfannau ymchwil ac eraill at ei gilydd gan anelu at droi ymchwil o’r radd flaenaf yn dystiolaeth o ansawdd uchel ar gyfer Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gyda’n gilydd, mae gennym ymrwymiad cenedlaethol i sicrhau bod y gwaith o ddatblygu polisi ac arferion yn cael ei ategu gan dystiolaeth gadarn, gan amlygu rhagoriaeth ac amrywiaeth y ddawn ymchwil sydd yng Nghymru. Drwy wneud hyn, byddwn yn sicrhau bod ymchwil academaidd yn cyflawni gwell effaith o fewn y gymuned ehangach o ddefnyddwyr tystiolaeth ac, yn y pen draw, yn dwyn manteision pendant i bobl Cymru.
Byddwn yn gwneud hyn trwy’r ffyrdd canlynol:
- Datblygu dulliau arloesol o nodi bylchau mewn tystiolaeth a deall anghenion y defnyddwyr tystiolaeth yng Nghymru.
- Hwyluso cydweithio rhyngddisgyblaethol a thraws-sectoraidd i fynd i’r afael â’r bylchau a nodwyd mewn tystiolaeth.
- Rhoi cymorth i ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr o fewn y sefydliadau sy’n aelodau i gyfnewid arbenigedd a sgiliau.