Mae Rhwydwaith Arloesedd Cymru (WIN) yn mynd i fod yn cynnal cyfres fisol o Sgyrsiau WIN sy’n canolbwyntio ar gyllido ymchwil ac arloesedd. I gael manylion am ein Sgyrsiau WIN misol nesaf, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
Horizon Europe: Strategaethau ar gyfer adeiladu consortia
Dydd Mercher 16eg Hydref
12pm – 1pm
Mewn cydweithrediad ag Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB), cynhelir gweminar gyntaf Sgyrsiau WIN ar 16eg Hydref. Mae WHEB yn cynorthwyo prifysgolion i ddod o hyd i gyfleoedd cyllido Ewropeaidd, adeiladu partneriaethau a hyrwyddo prifysgolion Cymru.
Bydd y sgwrs ar-lein hon yn rhoi trosolwg o raglen Horizon Europe, gan ganolbwyntio ar Golofn 2: Heriau Byd-eang a Chystadleurwydd Diwydiannol Ewropeaidd. Mae cyfranogiad y DU a Chymru yn y maes hwn yn is nag yr oedd yn Horizon, 2020 ond mae’n rhan allweddol o’r rhaglen ac yn gofyn am gydweithio a rhwydweithio â phartneriaid Ewropeaidd. Bydd y sgwrs yn rhannu mewnwelediadau a strategaethau ar gyfer adeiladu consortia a rhwydweithiau o safbwyntiau Cymreig ac Ewropeaidd.
Siaradwyr:
- Cyfleoedd Horizon Europe – Berwyn Davies a Catherine Marston
- Adeiladu Rhwydweithiau Ewropeaidd – Yr Athro Michael Woods, Athro Daearyddiaeth Ddynol, Prifysgol Aberystwyth
- Safbwynt o Frwsel
I fynychu, cwblhewch y ffurflen gofrestru isod erbyn hanner dydd, dydd Llun 14eg Hydref 2024. Bydd y sgwrs ar-lein yn cael ei chynnal ar Microsoft Teams, a bydd cyfarwyddiadau ymuno’n cael eu hanfon ddydd Mawrth 15fed Hydref 2024.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.