📅 Dydd Mercher | 🕐 13:00–14:00
🔗 Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod ar MS Teams

Bydd Dr. Salamatu J. Fada yn siarad am y Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol ar gyfer yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Ymchwil, Tystiolaeth a’r Ffordd Ymlaen. Mae’r allbwn hwn yn dilyn efrydiaeth PhD 3 mis gyda Llywodraeth Cymru.
Mae Dr. Salamatu J. Fada yn Weithiwr Proffesiynol ym maes Cadwraeth ac Amgylchedd y mae ei gwaith yn cwmpasu’r amgylchedd, gweithredu ar yr hinsawdd, addysg, busnes a datblygu cymunedol. Hi yw Prif Ymgynghorydd JAVS Environmental Care Ltd. (Nigeria) a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Cynaliadwyedd LLP (DU), gan ddarparu arbenigedd byd-eang ar gadwraeth a chynaliadwyedd. Mae Salamatu yn aelod penodedig o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Wedi’i chydnabod â Doethuriaeth Anrhydeddus o Brifysgol Bangor a Chymrodoriaeth o Gymdeithas Amgylcheddol Nigeria, mae hi’n parhau i ysbrydoli trwy ei harweinyddiaeth, ei hysgolheictod a’i gwasanaeth dinesig.
