📅 Dydd Mercher 15fed Ebrill 2026 | 🕐 13:00–14:00
🔗 Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod ar MS Teams

Mae ‘Gweld Cymru’n Wahanol – Hiraeth’ yn brosiect tair blynedd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol a arweinir gan yr RNIB mewn partneriaeth â Thirweddau Cymru / Landscapes Wales. Dechreuodd y prosiect ym mis Ebrill 2025 ac mae eisoes yn cyflwyno ffyrdd newydd o feddwl ynghylch mynediad cynhwysol a lles yn ein Tirweddau Dynodedig Cymru.
Mae dau brif nod i Gweld Cymru’n Wahanol:
- Gwneud Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru yn wirioneddol hygyrch i bobl ddall a phobl â golwg rhannol. Bydd hyn yn cynnwys nifer o fentrau cyffrous, o fapio teithiau cerdded hygyrch a synhwyraidd i archwilio ffyrdd y gallwn wella mynediad a chysylltiad â’n Tirweddau a’n canolfannau ymwelwyr, gan gynnwys profi nifer o atebion technoleg arloesol, a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o golli golwg i staff a gwirfoddolwyr i gefnogi cydweithwyr ac ymwelwyr â nam ar eu golwg yn well.
- Codi ymwybyddiaeth o iechyd llygaid a cholli golwg mewn cymunedau gwledig trwy ymgysylltu â sefydliadau fel Yellow Wellies, ein cynghorwyr Ffermio Bro, Ffermwyr Ifanc Cymru, milfeddygon lleol, ac undebau ffermwyr. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno digwyddiadau hyfforddi byr, hwyliog ac effeithiol ledled Cymru i sicrhau bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell ac sy’n ymwneud â galwedigaethau traddodiadol fel ffermio yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch llygaid, yn dysgu ffyrdd ymarferol o ofalu am eu golwg, a ble i fynd am gymorth, gobeithio lleihau colli golwg ac anafiadau llygaid y gellir eu hatal ledled Cymru.
Ynglŷn â’r Siaradwyr

Mae Gareth Davies yn gweithio fel Arweinydd Gweld Cymru’n Wahanol yn yr RNIB. Gyda dros 25 mlynedd o brofiad o fewn y sectorau cyfiawnder cymdeithasol ac anabledd, mae Gareth bellach yn canolbwyntio ar gydweithio i wneud Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cymru a’r DU mor hygyrch i bawb, yn enwedig y rhai sy’n byw gyda cholled golwg. Ar yr un pryd, codi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae colli golwg yn eu hachosi mewn cymunedau gwledig gyda phwyslais penodol ar leihau nifer y ffermwyr sy’n colli eu golwg yn ddiangen.
