Mae’r lleoliad PhD hwn gydag Uned Tystiolaeth Strategol Llywodraeth Cymru yn cynnwys datblygu storfa ddigidol chwiliadwy o brosiectau Ymchwil a Datblygu wedi’u cwblhau i gefnogi llunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn Newid Hinsawdd ac Amaethyddiaeth.
I wneud cais, cyflwynwch CV a llythyr eglurhaol at Clare Dicks (Rheolwr Ymchwil ac Ymgysylltu Academaidd) yn researchplacements@gov.wales erbyn 01/08/2025.
NODYN: Rhaid i bob ymgeisydd gadarnhau eu bod wedi derbyn awdurdodiad i ymgymryd â lleoliad gan eu rheolwr rhaglen.