Bydd SoNaRR2020 yn darparu’r sylfaen dystiolaeth ac yn asesu i ba raddau y mae rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR) yn cael ei gyflawni (gan gynnwys ein hasesiad o fioamrywiaeth). Bydd yr adroddiad yn nodi heriau a chyfleoedd o ran rheoli adnoddau naturiol, ynghyd â bylchau yn yr wybodaeth sydd ei hangen i wneud hyn. Gan ddilyn ymlaen o’r ymgysylltu blaenorol, rydym yn awyddus i’n rhanddeiliaid helpu gyda’r casgliadau terfynol.
Prif ddiben y gweithdy hwn yw cael mewnbwn allanol ar gyfer penodau olaf SoNaRR2020 – yn benodol yr Asesiadau yn erbyn 4 mesur SMNR – Gyrwyr a Phwysau; Effaith ar SMNR a “meysydd ffocws ar gyfer SMNR”.
Bydd CNC hefyd yn gofyn i wirfoddolwyr fod ar banel adolygu eang a chynrychioliadol dros fisoedd yr haf i adolygu’r adroddiad cyffredinol.
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams, a bydd ar gael fel gwe-ddolen ac nid oes angen i’r cyfranogwr lawrlwytho’r rhaglen.
Bydd CNC yn defnyddio allbynnau o’r gweithdy yn yr adroddiad SoNaRR2020 terfynol lle gellir eu hategu â thystiolaeth, bodloni’r gofynion yn Neddf yr Amgylchedd a dilyn y dull y cytunwyd arno.
1:00 – 1:30 | Cyflwyniadau a gosod yr olygfa |
1:30 – 1:45 | Egwyl |
1:45 – 3:15 | Sesiwn grwpiau |
3:15 – 3:30 | Egwyl |
3:30 – 4:00 | Adborth, casgliadau a chamau nesaf |
Cofrestrwch eich diddordeb i gymryd rhan yn y gweithdy isod. Sylwer: gan ddibynnu ar lefel y diddordeb, gall niferoedd ar gyfer pob sefydliad gael eu cyfyngu. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru diddordeb yw hanner dydd, dydd Mawrth, 7 Gorffennaf. Byddwn yn cadarnhau lleoedd ar gyfer y gweithdai erbyn dydd Mercher, 8 Gorffennaf.