📅 Dydd Mercher | 🕐 13:00–14:00
🔗 Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod ar MS Teams

Consortiwm ATLAS – Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd – Prifysgol Caerdydd

Catherine yw cydlynydd Consortiwm Ymchwil Teithio Egnïol Cymru (ATLAS), partneriaeth ar draws pum Prifysgol Cymru a phartneriaid yn y diwydiant. Mae Catherine wedi gweithio ym maes teithio egnïol ers dros bymtheg mlynedd, gan gynnwys cynnal ymchwil ar sut mae gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc yn llywio ac yn rhyngweithio yn eu cymdogaethau. Bydd Catherine yn cyflwyno canfyddiadau o’r astudiaeth ddiweddaraf a gynhaliwyd gan ATLAS sy’n archwilio’r rhyngweithiadau sydd gan blant a phobl ifanc â’u hamgylcheddau naturiol ac adeiledig.