📅 Dydd Mercher | 🕐 13:00–14:00
🔗 Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod ar MS Teams
Siaradwyr:
Lydia Gaskell | Prosiect Llythrennedd Carbon
Matt Woodthorpe | EAUC
Laura Berks | Waterwise


Ymunwch â ni am sesiwn ddiddorol sy’n archwilio llythrennedd amgylcheddol—y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddeall a gweithredu ar heriau cynaliadwyedd mwyaf dybryd heddiw. Byddwn yn archwilio llythrennedd carbon (deall allyriadau a newid hinsawdd), llythrennedd dŵr (sut rydym yn defnyddio, yn gwerthfawrogi ac yn amddiffyn dŵr), a llythrennedd bioamrywiaeth (pwysigrwydd ecosystemau a rhywogaethau ar gyfer bywyd ar y Ddaear). Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at pam mae’r llythrenneddau hyn yn bwysig, sut maent yn cysylltu, a sut y gall unigolion, prifysgolion a chymunedau eu defnyddio i ysgogi newid ystyrlon.
Ynglŷn â’r Siaradwyr
Rheolwr Prosiectau a Hyfforddiant yn Waterwise yw Laura Berks, lle mae hi’n arwain ar brosiectau effeithlonrwydd dŵr, hyfforddiant, addysg a gwobr Checkmark y sefydliad. Gyda dros naw mlynedd o brofiad ar draws y sector dŵr, mae Laura wedi gweithio ym maes rheoli prosiectau, ymchwil, rheoleiddio ac ymgysylltu â chwsmeriaid, gan gynnwys rolau yn y Gymdeithas Dŵr Ryngwladol, The Water Retail Company, a South West Water. Mae hi hefyd yn Hyrwyddwr Llesiant Waterwise ac yn gwasanaethu fel Ysgrifennydd Pwyllgor Ardal Canolbarth Lloegr Sefydliad Dŵr. Yn angerddol dros hyrwyddo effeithlonrwydd dŵr a dysgu gydol oes, mae Laura yn dod â chyfoeth o arbenigedd mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid, meithrin gallu a chynaliadwyedd o fewn y diwydiant dŵr.

Lydia Gaskell yw Cydlynydd Addysg Bellach ac Uwch y Prosiect Llythrennedd Carbon. Mae hi’n cefnogi Colegau a Phrifysgolion AB yn y DU ac yn Rhyngwladol gyda’r broses o ymgymryd â hyfforddiant Llythrennedd Carbon a’i ddatblygu o ddechrau eu taith fel Dinasyddion Llythrennog Carbon i ddod yn sefydliad Addysgwr Llythrennog Carbon a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae gan Lydia radd meistr mewn Cynaliadwyedd ac mae wedi gweithio ym maes Addysg Newid Hinsawdd ers 7+ mlynedd, gan ddatblygu a chyflwyno ystod eang o raglenni addysgol ledled y byd. Mae hi’n angerddol am ddefnyddio addysg fel offeryn i rymuso a chymell pobl i gymryd rhan mewn gweithredu ar yr hinsawdd.

Cyfarwyddwr yr Alban yn EAUC yw Matt Woodthorpe. Mae’n rheolwr rhaglen gynaliadwyedd profiadol gyda hanes profedig o weithio ym maes datblygu cynaliadwy, ymgysylltu a datblygu cymunedol ac ymchwil. Mae ei feysydd diddordeb allweddol yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid a grymuso cymunedol, cynaliadwyedd o fewn y sector AU, ymgyrchu dros gynaliadwyedd a datblygu a rheoli prosiectau.