Rydym yn chwilio am noddwyr ar hyn o bryd ar gyfer ein cynhadledd 2020: Cydnerthedd Ucheldiroedd Cymru – Safbwynt Tystiolaeth, Prifysgol Aberystwyth
Ystyrir bod 80% o Gymru’n ucheldir. Bydd gan yr heriau hinsoddol ac economaidd digyffelyb y mae’r tirweddau hyn yn eu hwynebu ar hyn o bryd oblygiadau enfawr o ran llesiant cymunedau ac ecosystemau ar draws y wlad.
Bydd Tystiolaeth yr Amgylchedd 2020 yn archwilio thema cadernid a’r hyn y mae’r heriau hyn yn ei olygu i’n hucheldiroedd o amrywiaeth o safbwyntiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Bydd y gynhadledd yn dod â rhanddeiliaid o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ynghyd i drafod sut gall yr ymchwil ddiweddaraf helpu i lunio polisïau’r dyfodol.
Barod i disgleirio?
Dros dridiau, byddwn yn creu darlun o gadernid yng nghyd-destun ucheldiroedd a sut gallwn gefnogi llesiant y bobl a’r ecosystemau ynddynt. Bydd y gynhadledd yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys coedwigaeth, mawndiroedd, bioamrywiaeth, datgarboneiddio, amaethyddiaeth, ansawdd dŵr, diwylliant, treftadaeth a llawer mwy. Bydd siaradwyr o bob rhan o’r DU ac Iwerddon, a’n nod yw herio’r meddylfryd presennol ac agor llwybrau newydd ar gyfer cydweithio ac arloesi.

Gwella proffil eich cwmni gyda rhanddeiliaid allweddol drwy fod yn noddwr
Bwriad ein pecynnau noddi yw rhoi cymaint o sylw i’ch busnes â phosibl a chan ein bod yn disgwyl 200 a mwy o gynrychiolwyr o’r byd academaidd a chyrff yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, dyma gyfle gwych i ddatblygu eich rhwydwaith a dangos eich dylanwad mewn maes cystadleuol.
Ymuno â’n hardal arddangos
Bydd ein hardal arddangos yn eich galluogi i arddangos eich cwmni i’r bobl hollbwysig hynny sy’n gwneud penderfyniadau ac sy’n gweithio’n broffesiynol yn y diwydiant er mwyn gwneud cysylltiadau dylanwadol a datblygu’ch busnes. Cynigir lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin, felly cadwch le’n gynnar i osgoi cael eich siomi. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn noddwr neu arddangos yn ein cynhadledd, adolygwch y cyfleoedd isod a chysylltwch â info@epwales.co.uk
“Environment Platform Wales did an amazing job and can be justly proud of the event and the impact it has had. I think people will remember this for quite some time”
Attendee, Marine Evidence Conference, 2019

Pecynnau ar gael o £450
Cysylltwch a info@epwales.org.uk am ragor o wybodaeth.